Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Deisebau


Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3

Dyddiad: Dydd Llun, 5 Rhagfyr 2022

Amser: 14.00 - 14.48
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
13071


------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau o’r Senedd:

Jack Sargeant AS (Cadeirydd)

Rhys ab Owen AS

Luke Fletcher AS

Joel James AS

Buffy Williams AS

Tystion:

Staff y Pwyllgor:

Gareth Price (Clerc)

Mared Llwyd (Ail Glerc)

Kayleigh Imperato (Dirprwy Glerc)

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd ymddiheuriadau.

</AI1>

<AI2>

2       Deisebau newydd

</AI2>

<AI3>

2.15 P-06-1305 Dylid gwrthod y cynnig ynghylch 36 o Aelodau ychwanegol o’r Senedd erbyn 2026

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod y pwnc wedi’i ystyried yn fanwl iawn mewn nifer o adroddiadau gan Bwyllgorau’r Senedd, a bod pob un ohonynt yn argymell y dylid cynyddu nifer yr Aelodau o’r Senedd i alluogi’r Senedd i graffu ar waith Llywodraeth Cymru yn effeithiol. Hefyd, tynnodd yr Aelodau sylw at y ffaith y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno Bil diwygio’r Senedd yn y flwyddyn newydd a fydd yn cynnig cyfle arall i graffu ar y materion hyn yn y Senedd. O ganlyniad, cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.

</AI3>

<AI4>

2.2   P-06-1307 Dylai Llywodraeth Cymru ymrwymo i fabwysiadu gwaith cynnal a chadw ystadau tai newydd gan awdurdodau lleol

Datganodd Rhys ab Owen AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Helpodd i hyrwyddo'r ddeiseb ac mae'n un o'r llofnodwyr.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i wahodd Hefin David AS i rannu ei ddiddordeb yn y maes hwn, a’i ddealltwriaeth ohono, fel cam cyntaf. Yn dilyn y sesiwn honno, cytunodd y Pwyllgor y byddai’n edrych ar bapur cwmpasu i weld sut olwg fyddai ar ymchwiliad i’r mater.

 

</AI4>

<AI5>

2.3   P-06-1308 Rhaid gweithredu ar unwaith i roi terfyn ar aflonyddu rhywiol yn HOLL ysgolion Cymru, nid ysgolion uwchradd yn unig

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb, gan nodi, er bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd mynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol rhwng cymheiriaid ym mhob ysgol, ei bod yn glir ynghylch y ffordd benodol y bydd y gwaith hwn yn mynd rhagddo, gan gynnwys yr angen am adolygiad o fewn addysg gynradd i ddeall yr heriau’n well.

 

O ganlyniad i’r ymateb hwn, cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd am dynnu sylw at y mater pwysig hwn.

</AI5>

<AI6>

3       Diweddariadau i ddeisebau blaenorol

</AI6>

<AI7>

3.1   P-06-1232 Rhoi terfyn ar sefydlu unedau dofednod dwys trwy ddeddfu a chyflwyno moratoriwm hyd nes y gellir cyflawni hyn

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd gwestiynau'r deisebydd a oedd yn deillio o ymateb Cyngor Sir Powys. Cytunwyd y dylid trafod y ddau ymateb gyda’i gilydd pan ddaw'r ymateb gan Lywodraeth Cymru i law. 

</AI7>

<AI8>

3.2   P-06-1269 Peidiwch â gadael i'r cynllun redeg allan ar gyfer pobl sy'n marw yng Nghymru

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd ei bod wedi hybu ymgysylltiad cadarnhaol â'r Gweinidog a bod camau cadarnhaol wedi'u cymryd ers hynny. Yn unol â chais y deisebwyr, cytunodd yr Aelodau i ailedrych ar y ddeiseb yn nhymor y gwanwyn, pan fydd mwy o gynnydd i'w weld.

</AI8>

<AI9>

3.3   P-06-1270 Gwnewch Hydref 21ain yn Ddiwrnod Coffa swyddogol i'r rhai a laddwyd ac a effeithiwyd gan Drychineb Aberfan

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb, ac er na all Llywodraeth Cymru ddynodi gwyliau cenedlaethol, cytunwyd y gallai Llywodraeth Cymru godi’r mater hwn fel rhan o unrhyw drafodaethau â Llywodraeth y DU yn y dyfodol. Hefyd, nodwyd bod yr holl drychinebau mewn glofeydd wedi’u coffáu yn Ardd Goffa Genedlaethol a Chyffredinol y Glowyr. O ganlyniad, cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.

</AI9>

<AI10>

3.4   P-06-1272 Gwahardd defnyddio 'cymalau dim anifeiliaid anwes' mewn cytundebau tenantiaeth yng Nghymru.

Datganodd Jack Sargeant AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae'r deisebydd yn un o'i etholwyr.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i:

 

</AI10>

<AI11>

3.5   P-06-1289 Dylid cytuno ar ddeiliadaeth o 105 diwrnod, yn hytrach na 182 diwrnod, er mwyn helpu i wahaniaethu rhwng busnesau llety gwyliau ac ail gartrefi

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i roi gwybod i'r deisebydd am yr ymgynghoriadau sy'n cael eu cynnal gan Lywodraeth Cymru ar y mater o dan sylw. Cytunodd yr Aelodau eu bod wedi mynd â'r ddeiseb mor bell â phosibl. Penderfynwyd y dylid cau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd am godi'r mater.

</AI11>

<AI12>

3.6   P-06-1292 Gwneud i sefydliadau sector cyhoeddus Cymru adrodd ar allyriadau cwmpas 3 a'u cynnwys mewn targedau sero net

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith bellach wedi dechrau darn o waith ar ddatgarboneiddio’r sector cyhoeddus. Oherwydd y gwaith sydd eisoes ar y gweill yn y maes hwn, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd. 

</AI12>

<AI13>

3.7   P-06-1293 - Dylid darparu cyllid ar gyfer mynediad cyffredinol i Wasanaethau Cyswllt Torri Esgyrn

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb. O gofio bod y Gweinidog bellach wedi egluro’r gwaith sy’n cael ei wneud i wella mynediad at wasanaethau Cyswllt Torri Esgyrn ledled Cymru ac nid oes gan y deisebydd unrhyw sylwadau i’w hychwanegu, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd am dynnu sylw at y pryder hwn.

</AI13>

<AI14>

4       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Derbyniwyd y cynnig.

</AI14>

<AI15>

5       Adroddiad drafft - P-06-1253 Gwahardd rasio milgwn yng Nghymru

Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd ar rai mân newidiadau. Gofynnodd yr Aelodau a fyddai'n bosibl cyhoeddi’r adroddiad terfynol cyn y Nadolig.

</AI15>

<AI16>

6       Adroddiad drafft - P-06-1247 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i arwain y ffordd drwy gefnogi treialon wythnos waith pedwar diwrnod yng Nghymru

Cytunwyd ar yr adroddiad, yn amodol ar ychwanegu barn leiafrifol Joel James AS. Bwriedir i’r adroddiad terfynol gael ei gyhoeddi yn y flwyddyn newydd.

</AI16>

<AI17>

7       Blaenraglen waith

Trafododd y Pwyllgor y flaenraglen waith.

</AI17>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>